top of page







Croeso i fferm deuluol Penrhiwcowin!
Ry'n ni'n fferm fach deuluol lle gallwch ymlacio'n llwyr a mwynhau awyrgylch gwledig Sir Gâr, nid nepell o'r ffiniau gyda Sir Benfro a Cheredigion. Cewch fwynhau golygfeydd bendigedig Gorllewin Cymru ar wyliau heddychlon, di-ffwdan, neu ymweld a thraethau godidog ac atyniadau niferus yr ardal.
Codwch eich pabell o flaen un o'n tanau gwersyll neu, os am ychydig o foethusrwydd, llogwch un o'n pebyll glampio. Mwynhewch bitsa wedi ei grasu yn ein ffwrn neu beth am dostio malws melys o dan y sêr . . .
P'run ai am wyliau gwersylla neu glampio, edrychwn ymlaen at eich croesawu.
Cliciwch y botwm; codwch y ffôn neu anfonwch e-bost i archebu eich gwyliau.
07900 922930
bottom of page