top of page
DSC_0383_edited.jpg
20190827_160310_edited.jpg
IMG_20180515_170447.jpg
IMG-20210124-WA0036_edited.jpg

Amdanom ni

Mae croeso teuluol, Cymreig yn eich aros yn ‘Glampio Cowin,’ sydd wedi ei leoli ar fferm deuluol ‘Penrhiwcowin,’ ger pentref bach Blaenycoed, rhwng Castell Newydd Emlyn a Chaerfyrddin.  Mae’n lleoliad heddychlon yn ddelfrydol ar gyfer ymlacio neu gerdded llwybrau gwledig ond rydym hefyd o fewn cyrraedd hawdd i atyniadau Sir Benfro, De Ceredigion a Sir Gâr. 

 

Mae ein fferm 70 erw yn dynfa i fywyd gwyllt ac adar, yn cynnwys y Barcud a’r Wennol, a cewch fwynhau sain peraidd côr y wig o’ch pabell.   Hefyd, cewch flas o fywyd amaethyddol cefn gwlad gan weld defaid ac wyn yn y caeau a blasu’n wyau ffres.  Ein bwriad yw datblygu hafan rhag prysurdeb bywyd bob dydd ac rydym wedi agor ers dechrau Gorffennaf, 2021. 

​

20200409_133417.jpg
Ty bach.jpeg
20210124_113750.jpg
20190422_125054.jpg
IMG-20170621-WA0009_edited.jpg

Cyfleusterau 

Safleoedd unigol 

Ar bob safle 12 x 12m, ceir tân gwersyll er mwyn i chi fwynhau’r profiad o wersylla yn ei lawnder, ynghÅ·d a gridyll er mwyn coginio eich bwyd dros y tân.  Gallwch fwynhau'ch pryd ar y bwrdd picnic sydd wedi ei ddarparu ar eich safle.  Hefyd, mae cyfleusterau tÅ· bach dynodedig ar bob safle, sy’n cynnig hwylustod a phreifatrwydd. 

 

Cysgodfa 

Mae’r gysgodfa yn gartref i oergell a rhewgell yn ogystal â cyfleusterau golchi llestri a lle i eistedd a mwynhau ‘dished fach o de,’ neu beth bynnag sy’n mynd a’ch bryd! 

 

Cawodydd 

Drws nesaf i'r gysgodfa ceir y bloc ymolchi lle cewch fynediad at gyfleusterau cawod mewn un o ddau 'wet room.' 

​​

Caiff cyfleusterau ymolchi a thai bach eu glanhau’n drylwyr (deep-clean) cyn i chi gyrraedd.  Tra’r ydych yn aros yma, ni fyddwn yn mynd mewn i'ch cyfleusterau dynodedig ond bydd deunyddiau glanhau ar gael at eich defnydd.   

 

Gofynnwn yn garedig am eich cydweithrediad i gynnal mesurau ymbellhau cymdeithasol ar bob achlysur, ac yn arbennig wrth ddefnyddio’r gysgodfa a’r ardal golchi llestri. 

​

Ffwrn bitsa 

Bydd y ffwrn  yn cael ei chynnau yn wythnosol ac mae croeso i chi ei defnyddio i baratoi eich pitsa eich hun.  Bydd opsiwn i chi brynu toes ond bydd angen i chi ddarparu'r cynhwysion eraill fel yr ydych yn ei ddymuno.

 

Glampio 

Ceir stôf sy’n llosgi coed tân yn y pebyll glampio ac mae’r coed tân ar eu cyfer yn gynwysedig ym mhris eich gwyliau.  Gofynnwn i chi ddefnyddio’r coed tân yn ystyrlon a pheidio gadael stôf ynghyn heb oruchwyliaeth. 

​

Rydym wedi ychwanegu cysgodfa fechan ar gyfer eich teulu, gyda lle i goginio a golchi llestri, a chyfle i fwynhau pryd o fwyd neu gem o gardiau ar bwrdd picnic pe digwydd iddi fwrw glaw! 

​

bottom of page