top of page

O'r De:

Wrth ddod i Gaerfyrddin o gyfeiriad Cross Hands, cymrwch yr ail heol ar y cylchfan i'r A40

​

Ar y cylchfan nesaf, y 3ydd heol i'r A4242

​

Ar y cylchfan nesaf, yr heol 1af i Morfa lane (B4312) heibio Tesco

​

Ar y cylchfan nesaf, yr ail heol i St Catherine St

​

Yn y golau, trwoch i'r chwith ar Heol Dwr

​

Parhewch ar yr un heol am 5.2 filltir

​

Trowch i'r chwith

​

Dilynwch yr heol, trwy bentref Blaenycoed

​

Ar ôl pentref Blaenycoed, ewch i lawr y rhiw a lan yr ochr draw

​

PEIDIWCH TROI I'R CHWITH ar heol gyda cherflun o geffyl ar ben yr heol

​

Ewch heibio'r byngalo ar dop y rhiw

​

Ni yw'r nesaf ar y chwith.  Bydd angen gyrru drwy glos fferm 'Plasygwer.'

O'r Gogledd:

Ewch drwy Gastellnewydd Emlyn​

​

Wrth ddod allan o'r dref, trowch i'r chwith ar yr A484

​

Ar ôl 0.2 filltir, trowch i'r dde i Heol Aberarad (B4333)

 

Ar ôl 4.8 milltir, trowch i'r dde i'r B4299 (ger 'Aspirations Outdoor Adventures)

 

Ar ôl 1.6 milltir, trowch i'r chwith (gyferbyn â chapel 'Bryn Moriah.')

 

Trowch i'r chwith ar y cyffordd

​

Byddwn ni ar y dde ymhen dwy filltir.  Bydd angen gyrru trwy glos fferm 'Plasygwer.'

​

OS YDYCH YN DEFNYDDIO SAT-NAV AC YN CYRRAEDD HEOL GYDA CHERFLUN O GEFFYL AR BEN YR HEOL, RYDYCH WEDI MYND RHY BELL!  TROWCH NÔL A GYRRU I DOP Y RHIW A BYDDWN NI AR Y CHWITH.

​

bottom of page