

Gwersylla
Mae gennym 11 safle gwersylla sy'n addas ar gyfer pebyll neu gerbydau gwersylla. Nid ydym yn codi tâl uwch yn ystod tymhorau prysur a gellir llogi safle am £25 y noson ar unrhyw adeg o'n tymor.
Am y pris cewch:
-
safle pabell / cerbyd gwersylla 12m x 12m (codir tâl ychwanegol am osod mwy nag un pabell ar un safle.)
-
lle i 2 oedolyn ac 1 car (ni chodir tâl am blant o dan 18 oed)
-
codir tâl o £3 y noson am bob oedolyn ychwanegol a £2 y noson am bob cerbyd ychwanegol
-
-
'pit' ar gyfer tân gwersyll ac ychydig o goed tân (gellir prynu coed tân ychwanegol am bris rhesymol)
-
gridyll i'w osod dros y tân os am goginio bwyd
-
cyfleusterau tŷ bach dynodedig
-
ddefnydd o gyfleusterau cawod
-
defnydd o oergell a rhewgell
-
ardal golchi llestri
-
cysgodfa ac eisteddfan er mwyn cynllunio'ch diwrnod neu gynnal 'clonc'
I wneud ymholiadau neu i fwcio eich lle, cysylltwch â ni drwy e-bost, ffôn neu facebook neu ewch i wefan Pitchup.com