Polisi Preifatrwydd
Rydym yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd a chaiff unrhyw wybodaeth a ddarperwch ei ddefnyddio yn unol â’r polisi hwn.
Byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol wrth brosesu archebion neu ymholiadau:
-
enw
-
cyfeiriad a chôd post
-
cyfeiriad e-bost
-
rhif ffôn
-
unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol i'ch gofynion
Byddwn ond yn defnyddio’ch wybodaeth bersonol:
-
i weinyddu eich cyfrif
-
i ddeall eich anghenion a’ch gofynion er mwyn sicrhau’r gwasanaeth gorau posibl
-
i gadw cofnodion a chyfrifon busnes
-
i wella ein gwasanaeth (efallai byddwn yn cysylltu â chi i dderbyn adborth ar eich profiad a’ch disgwyliadau
O bryd i'w gilydd, efallai byddwn yn cysylltu â chi gyda manylion ymgyrchoedd hyrwyddo neu wasanaethau newydd. I wneud hyn, byddwn yn cadw gwybodaeth cyfyngedig o’ch cofnod archebion a’ch manylion cyswllt. Pe dymunwch i'ch data gael ei ddileu o’n cofnodion, e-bostiwch post@glampiocowin.cymru a byddwn yn prosesu’ch cais ar fyrder.
Cyfryngau Cymdeithasol
Rydym yn defnyddio’r platfformau isod wrth weinyddu ymholiadau. Am fanylion eu polisïau preifatrwydd, ewch i’r gwefannau perthnasol:
-
Facebook
-
Instagram
-
Messenger
‘The Greener Camping Club’
Er mwyn ymweld â ni, mae angen i chi fod yn aelod o’r ‘Greener Camping Club (GCC).’ Naill ai byddwn yn eich ymaelodi chi neu efallai eich bod yn aelod eisoes. Mae gennym ni gytundeb gyda’r clwb ar sut gall eich gwybodaeth gael ei ddefnyddio. Gweler www.greenercamping.org/privacy/cssites i ddysgu sut caiff eich gwybodaeth ei gadw a’i brosesu.
Nid yw GCC yn cadw unrhyw fanylion heblaw eich enw a’ch cyfeiriad e-bost.
Ni fyddwn yn rhoi mynediad i'ch data i unrhyw bartïon eraill oni bai bod gofyn cyfreithiol arnom i wneud hynny.
​