Telerau ac Amodau ‘Glampio Cowin.’
Dyma ein telerau ac amodau. Trwy dalu blaendal neu daliad llawn, rydych yn derbyn yr isod.
Aelodaeth o’r ‘Greener Camping Club’ a pham?
Rydym ni mewn ardal wledig, heb ei chyffwrdd ac rydym yn wersyll ‘GCC.’ Golyga hyn ein bod yn ymrwymo i sicrhau bod ein hymwelwyr yn aelodau o’r awdurdod dyroddi, sef y ‘Greener Camping Club.’ Y newydd da yw y gallwn eich ymaelodi am £12.00. Ni ad-delir y ffi hon yn achos cansladau am unrhyw reswm.
Noder: mae’r aelodaeth flynyddol yn ddilys o’r 1af o Ionawr at ddiwedd Rhagfyr.
Amserau cyrraedd ac ymadael
Mae nifer o dasgau gyda ni i'w cwblhau rhwng ymadawiadau a chyraeddiadau er mwyn sicrhau’r profiad gorau posibl i chi. Mae’r rhain yn cynnwys cymhennu'r meysydd a glanhau a pharatoi’r meysydd a’r pebyll glampio ar gyfer ein ymwelwyr nesaf.
​
I’r perwyl hwn, byddwn yn ddiolchgar i chi am gadw at yr amserau cyrraedd ac ymadael isod:
Diwrnod cyrraedd
Bydd y meysydd gwersylla ar gael o 2:00 y.p. ac mae disgwyl i chi gyrraedd erbyn 8:00 y.h. er mwyn peidio tarfu ar westeion eraill. Os byddwch yn hwyr am unrhyw reswm, rhowch wybod i ni er mwyn i ni wneud trefniadau.
Diwrnod ymadael
Gofynnwn i chi adael y safleoedd gwersylla erbyn 11:00 y.b. a’r pebyll glampio erbyn 10:00 y.b.
Yn ystod eich arhosiad
Rydym yn wersyll teuluol sy’n darparu profiad heddychlon gydag effaith amgylcheddol isel a gofynnwn i chi ddilyn rheolau’r maes er mwyn sicrhau bod pawb yn medru mwynhau eu profiad.
Taliadau
Gofynnwn am flaendal o 50% pan yn archebu’r gwyliau. Unwaith bydd y blaendal wedi ei gadarnhau a’r ffurflen archebu wedi ei chwblhau, bydd eich archeb wedi ei ddiogelu. Cedwir archebion am hyd at 3 niwrnod cyn ail-ryddhau'r dyddiadau os na thelir blaendal. Gofynnir i chi dalu’r gweddill pan fyddwch yn cyrraedd y safle.
​
Cansladau o’ch hochr chi
Os byddwch yn canslo’ch gwyliau 3 wythnos neu fwy cyn y dyddiad cyrraedd, byddwn yn ad-dalu'ch arian, heblaw am gost prosesu’r ffi aelodaeth o’r ‘Greener Camping Club.’ Os canslwch y gwyliau 3 wythnos neu lai cyn y dyddiad cyrraedd ac y llwyddwn i ail-osod y safle, byddwn yn ad-dalu'ch arian, heblaw am gost prosesu’r ffi aelodaeth o’r ‘Greener Camping Club.’ Pe na bawn yn llwyddo i ail-osod y safle / babell, ni fyddwn yn medru ad-dalu eich blaendal. Nid yw eich safle yn drosglwyddadwy heb gytundeb ysgrifenedig trwy e-bost.
​
Cofid-19
Pe bydd rheidrwydd arnoch i ganslo eich gwyliau am un o’r rhesymau canlynol, byddwn yn cynnig yr opsiwn i daflu eich gwyliau ymlaen os yn bosibl:
-
rydych chi neu un o’ch grŵp wedi profi’n bositif am Cofid-19 neu yn arddangos symptomau
-
mae'n rhaid i chi hunan-ynysu
-
rydych wedi eich rhoi o dan amodau ‘clo’ sy’n golygu y byddwch yn torri’r gyfraith i ddod ar wyliau
​
Os gallwch adael eich blaendal gyda ni a gohirio’ch gwyliau, bydd hyn yn help mawr i ni fel busnes bach. Os gofynnwch am ad-daliad, byddwch yn derbyn ad-daliad llawn heblaw am gost prosesu’r ffi aelodaeth o’r ‘Greener Camping Club’ cyn gynted ag sy’n bosibl.
Cansladau o’n hochr ni
Cedwir yr hawl i ganslo gwyliau gwersylla neu glampio ar fyr rybydd am unrhyw un o’r rhesymau isod:
-
na allwn ddarparu pabell glampio neu le i wersylla
-
salwch
-
tân
-
llifogydd
-
unrhyw amgylchiadau anffafriol eraill sydd y tu hwnt i'n rheolaeth
Mewn sefyllfa o’r fath, ad-delir eich taliad llawn, heblaw am ffi aelodaeth ‘Greener Camping Club.’ Ni fyddwn yn derbyn atebolrwydd nac chyfrifoldeb am unrhyw golledion, yn cynnwys colledion canlyniadol a achosir gan gansladau.
Cedwir yr hawl i ganslo eich gwyliau os cawn ein rhoi o dan amodau ‘clo’ neu mewn unrhyw sefyllfa lle nad yw’n ddiogel i agor y safle. Pe digwydd hyn, cewch gynnig gohiriad os cedwch eich blaendal gyda ni neu ad-daliad llawn heblaw am ffi aelodaeth ‘Greener Camping Club.’
Plant
Ein nod yw cynnig cyfle i blant fwynhau eu profiad o ryddid ac amgylchedd cefn gwlad. Wedi dweud hyn, rydym yn fferm weithredol ac mae risgiau cysylltiedig i'w hystyried:
-
rydym yn caniatáu ac yn annog tanau gwersyll
-
mae stofiau sy’n llosgi coed yn y pebyll glampio
-
mae gennym ffwrn bitsa
-
rydym yn ffermio’r tir ac mae gwaith i'w wneud ar y fferm gan ddefnyddio tractorau a pheiriannau
-
mae defaid a hyrddod yn ein caeau
​
Mae’r risgiau sy’n gysylltiedig a’r uchod yn fach a dylent fod yn eglur ond, os ydych yn ansicr, gofynnwch. Mae rhieni yn gyfrifol am oruchwylio eu plant ar y safle ar bob adeg.
​
Ystyriaeth o eraill
Mae hwn yn wersyll tawel sy’n cynnig cyfle i fwynhau awyrgylch gwledig, amaethyddol. Ni chaniateir generaduron na cherddoriaeth wedi ei seinchwyddo a gofynnir i chi ostwng eich lleisiau ar ôl 10yh. Gofynnir i ymwelwyr swnllyd sy’n amharu’n barhaus ar westeion eraill i adael heb ad-daliad. Os ydych mas am y nos ac yn dychwelyd yn hwyr, gofynnir i chi ystyried eraill a gwneud pob ymgais i osgoi tarfu arnynt.
​
Os ydych yn torri rheolau’r safle neu’r clwb yn barhaus, gallwch gael eich gwahardd o’r ‘Greener Camping Club’ a wynebu cwyn i'r heddlu.
Ymwelwyr
Caniateir ymwelwyr i'ch safle trwy gytundeb yn unig, ac yn unol â’r rheolau Cofid ar y pryd.
Ailgylchu a Sbwriel
Mae didoli gwydr, caniau, plastig, papur, cardfwrdd ayyb a’u gosod yn y biniau pwrpasol yn amod o wersylla yma. Gellir gosod unrhyw beth na ellir ei ail-gylchu yn y bin sbwriel.
Eiddo coll
Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw eiddo gaiff ei golli na'i ddwyn.
Polisi ysmygu
Gweithredir polisi DIM YSMYGU o fewn ein pebyll a’n cysgodfeydd dan-do. Os ydych yn ysmygu, gwnewch hynny tu fas a dodi eich stympiau yn y tân neu’r bin. Diolch.
​
Sylweddau anghyfreithlon
Ni chaniateir defnydd o sylweddau anghyfreithlon ar y safle.
Tanau gwersyll a Choed tân
Defnyddiwch y mannau penodedig yn unig ar gyfer tanau gwersyll a pheidiwch ag ymestyn na newid y lleoliadau. Peidiwch gadael eich tân gwersyll heb ei oruchwylio ac ystyriwch yn ofalus cyn cynnau tân os mae hi’n wyntog.
​
Cŵn.
Rydym yn fferm weithredol felly mae'n angenrheidiol eich bod yn cadw eich cŵn ar dennyn ar bob achlysur ac yn clirio eu baw.
Coed tân
Caiff ychydig coed ar gyfer y stofiau eu cynnwys ym mhris eich gwyliau. Mae hyn yn gost ychwanegol i ni ac fe’i darperir as sail ‘defnydd-teg.’ Gofynnwn yn garedig i chi ddefnyddio’r coed yn ystyriol ac i beidio gadael stôf ynghyn os nad ydych yn bresennol.
Telerau ac amodau penodol ar gyfer glampio
Difrod damweiniol
Os caiff unrhyw eiddo ei dorri neu ei ddifrodi’n sylweddol, ar wahân i draul arferol, gellir codi tâl am drwsio neu brynu eiddo newydd. Cedwir yr hawl i godi tâl am lanhau eithafol os gadewir pabell neu gysgodfa mewn cyflwr annerbyniol oherwydd gwastraff, sbwriel, ymyriadau gyda’r strwythur, symud dodrefn ayyb. Bydd gwesteion yn atebol am unrhyw ddifrod oherwydd tân, mwg neu ymyriad â’r strwythur oherwydd esgeulustod.